Cyflwyniad

1.        Mae Swyddle’n croesawu’r cyfle i ymateb i ymwchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Strategaeth Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru.

2.        Sefydlwyd Swyddle er mwyn darparu gwasanaethau recriwtio a busnes dwyieithog arbenigol.  Mae Swyddle yn cael ei arwain gan Gymry Cymraeg, gyda dros 30 mlynedd o brofiad o weithio’n ddwyieithog o fewn meysydd recriwtio a chyfathrebu strategol.  Ein prif nod yw eich galluogi i ennill mantais fasnachol, cyfalaf cymdeithasol a manteisio ar y farchnad ddwyieithog, drwy ddod o hyd i’r staff dwyieithog gorau a darparu ystod eang o adnoddau iaith.  Mae’n gwasanaethau yn cynnwys:

-     Recriwtio Parhaol a Chontractau 

-     Atebion i staffio dros dro ar draws Cymru ac ar gyfer pob sector

-     Gwasanaeth hysbysebu swyddi pwrpasol, gan gynyddu cyrhaeddiad cleientiaid 

-     Rhwydwaith Cymru-gyfan o siaradwyr Cymraeg proffesiynol

Gweithlu’r Dyfodol 

3.        Mae pwyslais ar ddarpariaeth gweithlu addysgu yn y strategaeth ond mae angen hefyd i greu galw yn y gweithlu ehangach, gan gymell y defnydd o’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn galw’n gynyddol am wasanaethau dwyieithog llawn.  Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru (2013-14) mae canran y sawl sy’n siarad Cymraeg fwyaf ymysg rheiny sydd rhwng 3-15 mlwydd oed (mor uchel a 50%).  Er mwyn cynnal momentwm, mae angen iddynt gael swyddi lle maent yn defnyddio’r Iaith neu lle mae eu gallu ieithyddol yn rhoi mantais iddynt (Cymraeg hanfodol neu lle mae’r Gymraeg yn fanteisiol).  Dylai unrhyw strategaeth Iaith fod ar sail diwyllianol/cymdeithasol (cyfleoedd tu allan i’r ystafell ddosbarth) ond hefyd ar sail economaidd (gwaith, gyda chymhelliad, hyrwyddwyr busnes a modelau rôl). Yng nghyd destun y sector addysg, dylid cyfathrebu llwybrau gyrfa newydd yn glir ac yn gynnar gyda gwasanaethau cefnogol pwrpasol er mwyn cwblhau’r llwybrau hyn.

4.        Mae’r Gymraeg wedi bod yn Iaith y sector cyhoeddus ers oes, mae angen iddo hefyd fod yn Iaith y sector breifat.  Byddai o fudd i adeiladu ar ymchwil Anghenion o ran Sgiliau Cymraeg mewn Wyth Sector (2014)  a ddangosodd lle roedd y buddion a’r dyheadau am sgiliau Iaith Gymraeg wedi’u canfod yn y sectorau hyn, gyda dull o fynd ati sydd o leiaf yn strategol a chydlynys ar gyfer dwyieithrwydd yn y sectorau hynny, yn enwedig rheiny a all ychwanegu gwerth yn gyflym, er enghraifft, gofal plant/gofal cymdeithasol.  Ymellach, bydda’n rhesymegol i flaenoriaethu y sgiliau ar gyfer y swyddi hynny a fyddai’n cynorthwyo i gyflawni’r Safonau Iaith Gymraeg, yn enwedig darpariaeth gwasanaethau i’r cyhoedd (gwasaneth cwsmeriaid) ac yn nhermau gweithredu (Adnoddau Dynol). Mae hyn hefyd yn wir o wasanaethau proffesiynol gyda sefydliadau megis Cyfreithwyr.com a gwasanethau cyffredinol a Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn ateb galw gynyddol mewn cyngor cyfreithiol a gwasanethau eiriolaeth i siaradwyr Cymraeg.   

Caffael

5.        Yn ein profiad ni, gall fframwaith caffael yn Nghymru mewn perthynas â darpariaeth staff parhaol ac yn enwedig staff dros dro gael ei lywio’n well er mwyn cynorthwyo sefydliadau sy’n destun Safonau’r Gymraeg i allu cydymffurfio o leiaf.  Yn hyn o beth, dylai caffael alluogi ac nid rhwystro cwmnïau lleol, yn enwedig rheiny a all ateb gofyn y farchnad yn ogystal â cylfawni blaenoriaethau Llywodraeth yn gyflym ac effeithiol.  Mae hyn wir yn enwedig os na all y cyflenwyr mwy, nad sydd o angenrheidrwydd â’r gallu i gydgysylltu’n llawn â’r rhwydwatih o weithwyr Iaith Gymraeg, yn gallu ateb y galw.  Gall hwn yn ei dro, greu diffyg cymhelliad i sefydliadau sy’n destun cydymffurfiaeth i ddatblygu a chynnal y capasiti angenrheidiol.     

6.        Gellir cymryd mantais o fframwaith gyfreithiol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel dull o annog dwyieithrwyd o fewn y gadwyn gyflenwi, lle mae gofyn/cymhelliad ar gyfer arddangos capasiti dwyieithog gweladwy o fewn tendrau sector cyhoeddus.  

Iaith Fasnachol

7.        Mae gan yr Iaith Gymraeg gyfle lawer yn well i esbylgu a goroesi mewn byd sy’n globaleiddio drwy ddod yn Iaith busnes a masnach.  Mae gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd (2014) wedi rhoi rywfaint o sail ar gyfer cynllun strategol.  Fe soniodd ymateb Llwyodraeth Cymru am iaith fel “mantais ychwanegol a fydd yn eu helpu i achub y blaen ar eu cystadleuwyr” ond byddai o fudd i strategaethau marchnata hefyd bwysleisio gwerth ychwanegol yr Iaith.  

8.        Byddai cefnogaeth marchnata gweithredolar gyfer cwmnïau lle mae eu brandiau yn cael eu huniaethu â’r Iaith yn gymorth i rhoi’r gwerth ychwanegol hwn ac mae ganddo gyswllt clir â’r agenda normaleiddio, ond yn taro dant, er enghraiff, mewn oes ôl Brexit i ddenu cynulleidfaoedd domestig a bydol i Gymru, drwy diaspora Gogledd Amereica a marchnadoedd datblygol.  Mae yna hefyd gysylltiad rhwng y diwyllianol a’r economaidd, er enghraifft, y Wladfa ym Mhatagonia, Beirdd Cymru yng nghwricwlwm Hwngari ag ymchwil gan Gomisiynydd y Gymraeg a ddangosodd for “Llaeth y Llan” wedi dod a gwell mantais gystadleuol na “Village Dairy” i’r cwmni hwnnw.  Mae’r enw Dawnus Construction yn dod â hunaniaeth benodol mewn maes nad sy’n cael ei gysylltu â galw uchel am y Gymraeg yn draddodiadol.   

9.        Byddai defnydd y Gymraeg yn y sector breifat yn derbyn budd mawr o “hyrwyddwr” busnes neu gorfforiaethol – busnes blaengar (nid o angenrheidrwydd yn ddomestig)

sydd yn cychwyn neu eisioes yn gweithredu’n ddwyieithog, megis brand technolegol, cyfryngau, ffasiwn neu eiconig. Er enghraifft, gwelodd Cadeirydd Legal and General werth mewn canoli’r busnes yng Nghymru; a chofleidiodd Budweiser hunaiaeth Gymraeg Cymru yn ei frandio wedi llwyddiant tîm peldroed cenedlaethol Cymru ym mhencampwriaethau Ewrop yn ddiweddar.  Mae Cymdeithas Pel Droed Cymru wedi bod yn arloeswyr ers amser wrth rhoi’r Gymraeg yn ganolog I’w cyfathrebu a chenhadaeth, o’r staff i’r chwaraewyr. Gall hwn hefyd weithio ar gyfer cwmnïau Cymreig neu gwmnïau sydd wedi’u seilio yng Nghymru.  

10.     Dywedodd Llywodraeth Cymru yn eu hymateb i Adroddiad ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd, y byddai’n “gofyn i'r byrddau sy'n goruchwylio'r ddwy Ddinas-ranbarth i nodi'r dulliau ymyrryd penodol a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg a'r economi yn eu rhanbarthau”. Gallai hwn gynnwys adnabod “hyrwyddwr” busnes neu fusnes disglair fel catalydd i eraill ddilyn.  Gellir cymryd yr ymrwymiad hwn gam ymhellach gan gynnwys sail statudol i gynllunio dwyieithog o fewn byrddau Dinas-rhanbarth, yn enwedig er mwyn gwasanaethu poblogaeth uwch siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn.  

11.     Mae galw am lawer mwy o ymchwil a thystiolaeth empiraidd er mwyn galluogi cynllunio a datblygu  cywir ar gyfer busnesau a gwasanaethau.  Un o’r gwaith ymchwil mwyaf cynhwysfawr yn y maes hwn wedi bod y tu allan i Lywodraeth Cymru, a gomisiynwyd gan Cyngor ar Bopeth yn Hefyd ar gael yn Gymraeg:deall y defnydd a'r diffyg defnydd o wasanaethau Cymraeg (2015) Ymysg y prif ganfyddiadau:  

-     Mae 82% o siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau neu ddeunydd gan gwmni dwyieithog

-     Dywed 83% o siaradwyr Cymraeg y byddant yn aros yn ffyddlon os ydych yn darparu gwasanaeth dwyieithog

Mae’r mathau yma o ymchwil yn rhoi adnoddau gwerthfawr wrth gynllunio ar gyfer, a chynaladwyedd gwasanaethau dwyieithog.  Mae angen prawf cynhwysfawr ar y fantais o weithredu’n ddwyieithog ar bob sector a hynny wedi ei gyfathrebu’n glir er mwyn gallu ymateb yn gadarnhaol a chynaladwy. 

Mentrau Iaith

12.     Mae Llywodraeth Cymru eisioes wedi ymrwymo i archwilio swyddogaeth posib Mentrau Iaith wrth hwyluso sefydlu a meithrin rhwydweithiau busnes lleol sy’n gweithredu drwy’r Gymraeg.  Gwelwn swyddogaeth Mentrau Iaith fel mudiadau sy’n galluogi yn hytrach na chystadleuaeth. Heblaw hynny, byddai cynaladwyedd y busnesau hynny, ac yn y pen draw, dyfodol yr Iaith Gymraeg fel Iaith fasnachol, yn cael ei herio.